Mae Traveline Cymru yn gweithredu yng Nghymru ac yn cydnabod fod gan yr iaith Gymraeg statws swyddogol o dan y ddeddf Iaith Gymraeg (Cymru) Mesur 2011, ac ni ddylid ei drin yn llai ffafriol na’r iaith Saesneg yng Nghymru.
Rydym yn credu fod gan y cwsmer yr hawl i ddewis eu hiaith a byddwn yn ymdrechu i ymateb i gais cwsmer i ddefnyddio’r iaith Gymraeg.
Mae Traveline Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwybodaeth teithio drwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg. Rydym eisoes yn darparu nifer o wasanaethau dwyieithog ac mae ein Ganolfan Gyswllt yn gwbl ddwyieithog. Gallwn wneud llawer mwy i annog y defnydd o’r iaith Gymraeg. Mae’r polisi hwn yn nodi ein dull presennol ynghyd â’r Cynllun Gweithredu sy’n amlinellu sut rydym yn bwriadu gweithredu’r polisi hwn.
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn y Saesneg a’r Gymraeg.
1. Cyfathrebu allanol
| Eich darpariaeth ar hyn o bryd | Lefel y darpariaeth hon | Amcanion er mwyn bwrw ymlaen i’r lefel nesaf neu er mwyn cynnal eich darpariaeth | Pwy fydd yn gyfrifol? | Erbyn pryd? |
| 1.1. Wyneb i wyneb Rydym yn ceisio sicrhau fod aelod o staff sy’n siarad Cymraeg ar gael ond nid yw hynny’n bosib ar bob achlysur. |
2 | Byddwn yn sicrhau bod aelod staff sy’n siarad Cymraeg ar gael i gyfarch ymwelwyr yn y Gymraeg y rhan fwyaf o’r amser. | Traveline Cymru | Parhaol |
| Bydd ymwelwyr sydd yn ymweld â’r Ganolfan Alwadau yn gallu siarad ag aelod staff yn y Gymraeg. | Traveline Cymru | Parhaol | ||
| 1.2. Danfon llythyrau ac e-bost Rydym yn cyfathrebu’n ddwyieithog ar adegau e.e. ar gyfer ymgyrchoedd marchnata penodol, neu i rannu gwybodaeth â chynulleidfa darged. |
2 | Mae gennym system ar waith i ymateb i geisiadau ar gyfer gohebiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. | Traveline Cymru | Parhaol |
| Mae’r holl lythyrau newyddion a ddosberthir gennym yn ddwyieithog. | Traveline Cymru | Parhaol | ||
| Byddwn yn adnabod ymgyrchoedd a phrosiectau penodol ac yn sicrhau ein bod yn cyfathrebu’n ddwyieithog. | Traveline Cymru | Parhaol | ||
| 1.3. Ymateb i lythyrau ac e-bost Rydym yn ymateb yn Gymraeg i unrhyw ohebiaeth rydym yn ei dderbyn yn Gymraeg ac nid yw hyn yn effeithio ar yr amser mae’n ei gymryd i ni ymateb. |
2 | Byddwn yn ymateb yn Gymraeg i unrhyw ohebiaeth yr rydym yn eu derbyn yn y Gymraeg gan ymdrechu i beidio gadael i hyn arwain at oedi. Mewn rhai achosion prin fe fydd peth oedi os bydd rhaid defnyddio cyfieithydd proffesiynol. | Traveline Cymru | Parhaol |
| Mae gennym gyfieithwyr Cymraeg sydd yn gweithio’n yn agos â ni i’n galluogi i gyfathrebu â chwsmeriaid er mwyn lleihau’r oedi. | Traveline Cymru | Parhaol | ||
| Byddwn yn nodi ein bod yn derbyn gohebiaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg. | Traveline Cymru | Parhaol | ||
| 1.4. Datganiadau i’r wasg Saesneg yw iaith ein datganiadau i’r wasg. |
1 | Mae’r ohebiaeth rydym yn defnyddio yn argraffu yn Saesneg yn unig. | Traveline Cymru | Parhaol |
| Bydd holl ddatganiadau’r wasg yn ddwyieithog os byddant yn cael eu cyhoeddi mewn cyhoeddiadau dwyieithog. | Traveline Cymru | Parhaol | ||
| Rydym yn cyfieithu holl ddatganiadau’r wasg sydd yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan. | Traveline Cymru | Parhaol | ||
| 1.5. Dros y ffôn Mae pob swyddog yn cynnig cyfarchiad dwyieithog. Mae trefniant mewn lle er mwyn sicrhau os nad yw’r swyddog yn gallu siarad Cymraeg, byddant yn trosglwyddo galwadau at swyddog sy’n gallu. |
3 | Mae pob aelod o’r staff sydd â chyswllt uniongyrchol â’r cyhoedd yn gwbl ddwyieithog. | Traveline Cymru | Parhaol |
2. Delwedd gorfforaethol a brandio
| Eich darpariaeth ar hyn o bryd | Lefel y darpariaeth hon | Amcanion er mwyn bwrw ymlaen i’r lefel nesaf neu er mwyn cynnal eich darpariaeth | Pwy fydd yn gyfrifol? | Erbyn pryd? |
| 2.1. Delwedd gorfforaethol a brand Mae ein delwedd yn gwbl ddwyieithog gan gynnwys unrhyw is benawdau gan drin y ddwy iaith yn gyfartal. |
3 | Byddwn yn sicrhau ein bod yn trin y ddwy iaith yn gyfartal. | Traveline Cymru | Parhaol |
3. Cyhoeddiadau a chyhoeddusrwydd
| Eich darpariaeth ar hyn o bryd | Lefel y darpariaeth hon | Amcanion er mwyn bwrw ymlaen i’r lefel nesaf neu er mwyn cynnal eich darpariaeth | Pwy fydd yn gyfrifol? | Erbyn pryd? |
| 3.1. Cyhoeddiadau a chyhoeddusrwydd Mae pob cyhoeddiad allanol a deunydd cyhoeddusrwydd yn cael ei ddarparu’n ddwyieithog ac mae rhai cyhoeddiadau mewnol ar gael yn ddwyieithog. |
3 | Byddwn yn sicrhau ein bod yn trin y ddwy iaith yn gyfartal. | Traveline Cymru | Parhaol |
| Byddwn yn cynyddu’r nifer o gyhoeddiadau mewnol sy’n cael eu paratoi’n ddwyieithog. | Traveline Cymru | Parhaol | ||
| 3.2. Nodwch os yw’r nwyddau isod ar gael yn: | ||||
| Cardiau busnes Dwyieithog – Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. |
3 | Byddwn yn sicrhau ein bod yn trin y ddwy iaith yn gyfartal. | Traveline Cymru | Parhaol |
| Byddwn yn sicrhau fod unrhyw aelod newydd o’r staff yn ymwybodol o’r angen yma. | Traveline Cymru | Parhaol | ||
| Papur pennawd Dwyieithog – Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. |
3 | Byddwn yn sicrhau ein bod yn trin y ddwy iaith yn gyfartal. | Traveline Cymru | Parhaol |
| Byddwn yn sicrhau fod unrhyw aelod newydd o’r staff yn ymwybodol o’r angen yma. | Traveline Cymru | Parhaol | ||
| Pop-ups Dwyieithog – Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. |
3 | Byddwn yn sicrhau ein bod yn trin y ddwy iaith yn gyfartal. | Traveline Cymru | Parhaol |
| Byddwn yn sicrhau fod unrhyw aelod newydd o’r staff yn ymwybodol o’r angen yma. | Traveline Cymru | Parhaol | ||
| Baneri hysbysebu Dwyieithog – Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. |
3 | Byddwn yn sicrhau ein bod yn trin y ddwy iaith yn gyfartal. | Traveline Cymru | Parhaol |
| Byddwn yn sicrhau fod unrhyw aelod newydd o’r staff yn ymwybodol o’r angen yma. | Traveline Cymru | Parhaol | ||
| Troednodyn e-bost Dwyieithog – Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. |
3 | Byddwn yn sicrhau ein bod yn trin y ddwy iaith yn gyfartal. | Traveline Cymru | Parhaol |
| Byddwn yn sicrhau fod unrhyw aelod newydd o’r staff yn ymwybodol o’r angen yma. | Traveline Cymru | Parhaol | ||
| Byddwn yn annog ein staff dwyieithog i ychwanegu eu bod yn hapus i gyfathrebu yn ddwyieithog yn eu troednodyn. | Traveline Cymru | Parhaol | ||
| Deunydd marchnata Dwyieithog – Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. |
3 | Byddwn yn sicrhau ein bod yn trin y ddwy iaith yn gyfartal. | Traveline Cymru | Parhaol |
| Byddwn yn sicrhau fod unrhyw aelod newydd o’r staff yn ymwybodol o’r angen yma. | Traveline Cymru | Parhaol | ||
| Canllawiau a llyfrynnau Dwyieithog – Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. |
3 | Byddwn yn sicrhau ein bod yn trin y ddwy iaith yn gyfartal. | Traveline Cymru | Parhaol |
| Byddwn yn sicrhau fod unrhyw aelod newydd o’r staff yn ymwybodol o’r angen yma. | Traveline Cymru | Parhaol | ||
| Arwyddion Dwyieithog – Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. |
3 | Byddwn yn sicrhau ein bod yn trin y ddwy iaith yn gyfartal. | Traveline Cymru | Parhaol |
| Byddwn yn sicrhau fod unrhyw aelod newydd o’r staff yn ymwybodol o’r angen yma. | Traveline Cymru | Parhaol | ||
| Gwisgoedd staff Dwyieithog – Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. |
3 | Byddwn yn sicrhau ein bod yn trin y ddwy iaith yn gyfartal. | Traveline Cymru | Parhaol |
| Byddwn yn sicrhau fod unrhyw aelod newydd o’r staff yn ymwybodol o’r angen yma. | Traveline Cymru | Parhaol | ||
4. Gwefan a chyfryngau cymdeithasol
| Eich darpariaeth ar hyn o bryd | Lefel y darpariaeth hon | Amcanion er mwyn bwrw ymlaen i’r lefel nesaf neu er mwyn cynnal eich darpariaeth | Pwy fydd yn gyfrifol? | Erbyn pryd? |
| 4.1. Gwefan Mae ein gwefan yn gwbl ddwyieithog gyda’r tudalennau Cymraeg a Saesneg yn cael eu diweddaru’n gyson. Mae modd trosglwyddo o’r Gymraeg i’r Saesneg ar unrhyw adeg trwy ddefnyddio’r botwm dewis iaith. |
3 | Mae’n gwefan yn gwbl ddwyieithog, gyda’r tudalennau Cymraeg a Saesneg yn cael eu diweddaru’n rheolaidd. | Traveline Cymru | Parhaol |
| 4.2. Cyfryngau Cymdeithasol Mae mwyafrif ein negeseuon yn ddwyieithog. Weithiau, os bydd angen i rywbeth gael ei gyhoeddi ar frys, bydd ein negeseuon yn Saesneg yn unig. |
2 | Mae mwyafrif ein negeseuon yn ddwyieithog. Weithiau, os bydd angen i rywbeth gael ei gyhoeddi ar frys, bydd ein negeseuon yn Saesneg yn unig. | Traveline Cymru | Parhaol |
| Mae pob neges Gymraeg ar Twitter neu Facebook yn ymateb yn y Gymraeg. | Traveline Cymru | Parhaol | ||
| Rydym yn cyfieithu pob un o’n negeseuon Twitter / Facebook a gaiff eu hamserlennu. | Traveline Cymru | Parhaol |
5. Cyfarfodydd a digwyddiadau cyhoeddus
| Eich darpariaeth ar hyn o bryd | Lefel y darpariaeth hon | Amcanion er mwyn bwrw ymlaen i’r lefel nesaf neu er mwyn cynnal eich darpariaeth | Pwy fydd yn gyfrifol? | Erbyn pryd? |
| 5.1. Pan fyddwch yn trefnu digwyddiad sydd ar agor i’r cyhoedd pa ddatganiadau isod sy’n gweddu orau i’ch sefydliad? | ||||
| Gwahoddiadau neu ddeunydd marchnata | 3 | Mae’n holl deunyddiau marchnata yn ddwyieithog. | Traveline Cymru | Parhaol |
| Areithiau/ anerchiadau | 3 | Rydym yn annog y defnydd o Siaradwyr Cyhoeddus Cymraeg. | Traveline Cymru | Parhaol |
| Arwyddion | 3 | Mae pob arwydd yn ddwyieithog. | Traveline Cymru | Parhaol |
| Pecyn mynychwyr | 3 | Mae holl becynnau mynychwyr yn ddwyieithog. | Traveline Cymru | Parhaol |
| Arddangosfeydd Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. |
3 | Mae deunyddiau marchnata dwyieithog yn cael eu darparu ym mhob arddangosfa. | Traveline Cymru | Parhaol |
6. Gwasanaethu, mentrau ac ymgyrchoedd newydd
| Eich darpariaeth ar hyn o bryd | Lefel y darpariaeth hon | Amcanion er mwyn bwrw ymlaen i’r lefel nesaf neu er mwyn cynnal eich darpariaeth | Pwy fydd yn gyfrifol? | Erbyn pryd? |
| 6.1. Gwasanaethau, ymgyrchoedd a pholisïau newydd Wrth gynllunio prosiectau newydd bydd ystyriaeth yn cael ei roi i’r Gymraeg ond nid oes gennym drefn penodol ar gyfer gwneud. Gall fod yn ddibynnol ar brofiad neu wybodaeth staff, neu ofynion penodol y prosiect. |
2 | Byddwn yn rhoi ystyriaeth i’r Gymraeg yn unol â’r cynllun gweithredu yma wrth gynllunio unrhyw brosiect, ymgyrch neu fenter newydd. | Traveline Cymru | Parhaol |
| 6.2. Cynnig gwasanaethau Rydym yn hysbysebu bod gwasanaethau Cymraeg ar gael. |
3 | Byddwn yn hysbysebu’n glir ein bod yn cynnig gwasanaeth Cymraeg i gwsmeriaid a defnyddwyr. | Traveline Cymru | Parhaol |
| 6.3. Llinellau cymorth Ydyn |
||||
| 6.4. Pa un o’r datganiadau isod sy’n disgrifio eich darpariaeth chi? Mae ein llinell gymorth ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg ar yr un rhif ffôn, yn ystod yr un oriau. Mae’r neges awtomatig yn ddwyieithog. Byddwn yn hyfforddi swyddogion ar sut i ddarparu yn ddwyieithog. Byddwn yn marchnata’r llinell cymorth fel gwasanaeth dwyieithog. |
3 | Mae’n llinell gymorth ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg ar yr un rhif ffôn, yn ystod yr un oriau. Mae’r neges awtomatig yn ddwyieithog. Byddwn yn hyfforddi swyddogion ar sut i ddarparu yn ddwyieithog. Byddwn yn marchnata’r llinell cymorth fel gwasanaeth dwyieithog. | Traveline Cymru | Parhaol |
| 6.5. Iaith Gwaith Mae posteri Iaith Gwaith mewn mannau amlwg ac mae ein swyddogion sy’n siarad Cymraeg wedi derbyn bathodynnau neu gortynnau Iaith Gwaith ond does dim gorfodaeth arnynt i’w gwisgo. |
1 | Byddwn yn gosod posteri Iaith Gwaith mewn mannau amlwg ac yn annog staff sy’n siarad Cymraeg i wisgo bathodynnau a chortynnau gwddf. | Traveline Cymru | Parhaol |
| Byddwn yn sicrhau bod staff sy’n siarad Cymraeg yn defnyddio’r troednodyn e-bost sy’n nodi y croesewir gohebiaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg. | Traveline Cymru | Parhaol |
7. Staff a gwirfoddolwyr
| Eich darpariaeth ar hyn o bryd | Lefel y darpariaeth hon | Amcanion er mwyn bwrw ymlaen i’r lefel nesaf neu er mwyn cynnal eich darpariaeth | Pwy fydd yn gyfrifol? | Erbyn pryd? |
| 7.1. Recriwtio staff Rydym yn asesu os yw’r Gymraeg yn sgil sydd ei angen ar gyfer bob swydd newydd. |
1 | Byddwn yn gofyn am y Gymraeg fel sgil ‘hanfodol’ wrth recriwtio staff newydd fydd yn delio gyda’r cyhoedd. | Traveline Cymru | Parhaol |
| 7.2. Hysbysebu swyddi gwag Rydym yn paratoi hysbysebion yn ddwyieithog os yw’r Gymraeg yn sgil dymunol neu hanfodol. |
1 | Byddwn yn hysbysebu swyddi ble nodir bod y Gymraeg yn sgil dymunol neu hanfodol yn ddwyieithog. | Traveline Cymru | Parhaol |
| Mae pob hysbyseb swydd yn y Ganolfan Alwadau, lle bo’r angen i’r ymgeisydd fod yn gwbl ddwyieithog, yn cael eu hysbysebu’n Gymraeg. | Traveline Cymru | Parhaol | ||
| 7.3. Ymwybyddiaeth iaith Nid oes unrhyw broses ffurfiol ond mae dogfennaeth ar gael os yw swyddogion yn dymuno ei ddarllen. |
1 | Byddwn yn cyfeirio at wasanaethau Cymraeg yn y pecyn gwybodaeth y mae staff yn eu derbyn ar ddechrau eu cyflogaeth. | Traveline Cymru | Parhaol |
| 7.4. Sgiliau iaith Nid ydym yn cofnodi sgiliau iaith ein swyddogion. |
1 | Byddwn yn holi staff am eu sgiliau iaith. | Traveline Cymru | Parhaol |
| 7.5. Dysgu a defnyddio’r Gymraeg Nid ydym yn cadw cofnod o hyfforddiant Cymraeg ein swyddogion. |
2 | Byddwn yn ymdrechu i greu awyrgylch sydd yn annog swyddogion i ddefnyddio’r Iaith Gymraeg. | Traveline Cymru | Parhaol |
Fersiwn 1.2 – Mai 2021