Croeso i'n gwefan newydd! Dewch i weld ein gwedd newydd a chynllunio eich taith nesaf.

Mae Traveline Cymru yn gweithredu yng Nghymru ac yn cydnabod fod gan yr iaith Gymraeg statws swyddogol o dan y ddeddf Iaith Gymraeg (Cymru) Mesur 2011, ac ni ddylid ei drin yn llai ffafriol na’r iaith Saesneg yng Nghymru.

Rydym yn credu fod gan y cwsmer yr hawl i ddewis eu hiaith a byddwn yn ymdrechu i ymateb i gais cwsmer i ddefnyddio’r iaith Gymraeg.

Mae Traveline Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwybodaeth teithio drwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg. Rydym eisoes yn darparu nifer o wasanaethau dwyieithog ac mae ein Ganolfan Gyswllt yn gwbl ddwyieithog. Gallwn wneud llawer mwy i annog y defnydd o’r iaith Gymraeg. Mae’r polisi hwn yn nodi ein dull presennol ynghyd â’r Cynllun Gweithredu sy’n amlinellu sut rydym yn bwriadu gweithredu’r polisi hwn.

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn y Saesneg a’r Gymraeg.

1. Cyfathrebu allanol

Eich darpariaeth ar hyn o bryd Lefel y darpariaeth hon Amcanion er mwyn bwrw ymlaen i’r lefel nesaf neu er mwyn cynnal eich darpariaeth Pwy fydd yn gyfrifol? Erbyn pryd?
1.1. Wyneb i wyneb
Rydym yn ceisio sicrhau fod aelod o staff sy’n siarad Cymraeg ar gael ond nid yw hynny’n bosib ar bob achlysur.
2 Byddwn yn sicrhau bod aelod staff sy’n siarad Cymraeg ar gael i gyfarch ymwelwyr yn y Gymraeg y rhan fwyaf o’r amser. Traveline Cymru Parhaol
Bydd ymwelwyr sydd yn ymweld â’r Ganolfan Alwadau yn gallu siarad ag aelod staff yn y Gymraeg. Traveline Cymru Parhaol
1.2. Danfon llythyrau ac e-bost
Rydym yn cyfathrebu’n ddwyieithog ar adegau e.e. ar gyfer ymgyrchoedd marchnata penodol, neu i rannu gwybodaeth â chynulleidfa darged.
2 Mae gennym system ar waith i ymateb i geisiadau ar gyfer gohebiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Traveline Cymru Parhaol
Mae’r holl lythyrau newyddion a ddosberthir gennym yn ddwyieithog. Traveline Cymru Parhaol
Byddwn yn adnabod ymgyrchoedd a phrosiectau penodol ac yn sicrhau ein bod yn cyfathrebu’n ddwyieithog. Traveline Cymru Parhaol
1.3. Ymateb i lythyrau ac e-bost
Rydym yn ymateb yn Gymraeg i unrhyw ohebiaeth rydym yn ei dderbyn yn Gymraeg ac nid yw hyn yn effeithio ar yr amser mae’n ei gymryd i ni ymateb.
2 Byddwn yn ymateb yn Gymraeg i unrhyw ohebiaeth yr rydym yn eu derbyn yn y Gymraeg gan ymdrechu i beidio gadael i hyn arwain at oedi. Mewn rhai achosion prin fe fydd peth oedi os bydd rhaid defnyddio cyfieithydd proffesiynol. Traveline Cymru Parhaol
Mae gennym gyfieithwyr Cymraeg sydd yn gweithio’n yn agos â ni i’n galluogi i gyfathrebu â chwsmeriaid er mwyn lleihau’r oedi. Traveline Cymru Parhaol
Byddwn yn nodi ein bod yn derbyn gohebiaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg. Traveline Cymru Parhaol
1.4. Datganiadau i’r wasg
Saesneg yw iaith ein datganiadau i’r wasg.
1 Mae’r ohebiaeth rydym yn defnyddio yn argraffu yn Saesneg yn unig. Traveline Cymru Parhaol
Bydd holl ddatganiadau’r wasg yn ddwyieithog os byddant yn cael eu cyhoeddi mewn cyhoeddiadau dwyieithog. Traveline Cymru Parhaol
Rydym yn cyfieithu holl ddatganiadau’r wasg sydd yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan. Traveline Cymru Parhaol
1.5. Dros y ffôn
Mae pob swyddog yn cynnig cyfarchiad dwyieithog. Mae trefniant mewn lle er mwyn sicrhau os nad yw’r swyddog yn gallu siarad Cymraeg, byddant yn trosglwyddo galwadau at swyddog sy’n gallu.
3 Mae pob aelod o’r staff sydd â chyswllt uniongyrchol â’r cyhoedd yn gwbl ddwyieithog. Traveline Cymru Parhaol

2. Delwedd gorfforaethol a brandio

Eich darpariaeth ar hyn o bryd Lefel y darpariaeth hon Amcanion er mwyn bwrw ymlaen i’r lefel nesaf neu er mwyn cynnal eich darpariaeth Pwy fydd yn gyfrifol? Erbyn pryd?
2.1. Delwedd gorfforaethol a brand
Mae ein delwedd yn gwbl ddwyieithog gan gynnwys unrhyw is benawdau gan drin y ddwy iaith yn gyfartal.
3 Byddwn yn sicrhau ein bod yn trin y ddwy iaith yn gyfartal. Traveline Cymru Parhaol

3. Cyhoeddiadau a chyhoeddusrwydd

Eich darpariaeth ar hyn o bryd Lefel y darpariaeth hon Amcanion er mwyn bwrw ymlaen i’r lefel nesaf neu er mwyn cynnal eich darpariaeth Pwy fydd yn gyfrifol? Erbyn pryd?
3.1. Cyhoeddiadau a chyhoeddusrwydd
Mae pob cyhoeddiad allanol a deunydd cyhoeddusrwydd yn cael ei ddarparu’n ddwyieithog ac mae rhai cyhoeddiadau mewnol ar gael yn ddwyieithog.
3 Byddwn yn sicrhau ein bod yn trin y ddwy iaith yn gyfartal. Traveline Cymru Parhaol
Byddwn yn cynyddu’r nifer o gyhoeddiadau mewnol sy’n cael eu paratoi’n ddwyieithog. Traveline Cymru Parhaol
3.2. Nodwch os yw’r nwyddau isod ar gael yn:
Cardiau busnes
Dwyieithog – Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal.
3 Byddwn yn sicrhau ein bod yn trin y ddwy iaith yn gyfartal. Traveline Cymru Parhaol
Byddwn yn sicrhau fod unrhyw aelod newydd o’r staff yn ymwybodol o’r angen yma. Traveline Cymru Parhaol
Papur pennawd

Pop-ups

Baneri hysbysebu

Troednodyn e-bost

Byddwn yn annog ein staff dwyieithog i ychwanegu eu bod yn hapus i gyfathrebu yn ddwyieithog yn eu troednodyn. Traveline Cymru Parhaol
Deunydd marchnata
Dwyieithog – Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal.
3 Byddwn yn sicrhau ein bod yn trin y ddwy iaith yn gyfartal. Traveline Cymru Parhaol
Byddwn yn sicrhau fod unrhyw aelod newydd o’r staff yn ymwybodol o’r angen yma. Traveline Cymru Parhaol
Canllawiau a llyfrynnau

Arwyddion

Gwisgoedd staff

4. Gwefan a chyfryngau cymdeithasol

Eich darpariaeth ar hyn o bryd Lefel y darpariaeth hon Amcanion er mwyn bwrw ymlaen i’r lefel nesaf neu er mwyn cynnal eich darpariaeth Pwy fydd yn gyfrifol? Erbyn pryd?
4.1. Gwefan
Mae ein gwefan yn gwbl ddwyieithog gyda’r tudalennau Cymraeg a Saesneg yn cael eu diweddaru’n gyson. Mae modd trosglwyddo o’r Gymraeg i’r Saesneg ar unrhyw adeg trwy ddefnyddio’r botwm dewis iaith.
3 Mae’n gwefan yn gwbl ddwyieithog, gyda’r tudalennau Cymraeg a Saesneg yn cael eu diweddaru’n rheolaidd. Traveline Cymru Parhaol
4.2. Cyfryngau Cymdeithasol
Mae mwyafrif ein negeseuon yn ddwyieithog. Weithiau, os bydd angen i rywbeth gael ei gyhoeddi ar frys, bydd ein negeseuon yn Saesneg yn unig.
2 Mae mwyafrif ein negeseuon yn ddwyieithog. Weithiau, os bydd angen i rywbeth gael ei gyhoeddi ar frys, bydd ein negeseuon yn Saesneg yn unig. Traveline Cymru Parhaol
Mae pob neges Gymraeg ar Twitter neu Facebook yn ymateb yn y Gymraeg. Traveline Cymru Parhaol
Rydym yn cyfieithu pob un o’n negeseuon Twitter / Facebook a gaiff eu hamserlennu. Traveline Cymru Parhaol

5. Cyfarfodydd a digwyddiadau cyhoeddus

Eich darpariaeth ar hyn o bryd Lefel y darpariaeth hon Amcanion er mwyn bwrw ymlaen i’r lefel nesaf neu er mwyn cynnal eich darpariaeth Pwy fydd yn gyfrifol? Erbyn pryd?
5.1. Pan fyddwch yn trefnu digwyddiad sydd ar agor i’r cyhoedd pa ddatganiadau isod sy’n gweddu orau i’ch sefydliad?
Gwahoddiadau neu ddeunydd marchnata 3 Mae’n holl deunyddiau marchnata yn ddwyieithog. Traveline Cymru Parhaol
Areithiau/ anerchiadau 3 Rydym yn annog y defnydd o Siaradwyr Cyhoeddus Cymraeg. Traveline Cymru Parhaol
Arwyddion 3 Mae pob arwydd yn ddwyieithog. Traveline Cymru Parhaol
Pecyn mynychwyr 3 Mae holl becynnau mynychwyr yn ddwyieithog. Traveline Cymru Parhaol
Arddangosfeydd
Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal.
3 Mae deunyddiau marchnata dwyieithog yn cael eu darparu ym mhob arddangosfa. Traveline Cymru Parhaol

6. Gwasanaethu, mentrau ac ymgyrchoedd newydd

Eich darpariaeth ar hyn o bryd Lefel y darpariaeth hon Amcanion er mwyn bwrw ymlaen i’r lefel nesaf neu er mwyn cynnal eich darpariaeth Pwy fydd yn gyfrifol? Erbyn pryd?
6.1. Gwasanaethau, ymgyrchoedd a pholisïau newydd
Wrth gynllunio prosiectau newydd bydd ystyriaeth yn cael ei roi i’r Gymraeg ond nid oes gennym drefn penodol ar gyfer gwneud. Gall fod yn ddibynnol ar brofiad neu wybodaeth staff, neu ofynion penodol y prosiect.
2 Byddwn yn rhoi ystyriaeth i’r Gymraeg yn unol â’r cynllun gweithredu yma wrth gynllunio unrhyw brosiect, ymgyrch neu fenter newydd. Traveline Cymru Parhaol
6.2. Cynnig gwasanaethau
Rydym yn hysbysebu bod gwasanaethau Cymraeg ar gael.
3 Byddwn yn hysbysebu’n glir ein bod yn cynnig gwasanaeth Cymraeg i gwsmeriaid a defnyddwyr. Traveline Cymru Parhaol
6.3. Llinellau cymorth
Ydyn
6.4. Pa un o’r datganiadau isod sy’n disgrifio eich darpariaeth chi?
Mae ein llinell gymorth ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg ar yr un rhif ffôn, yn ystod yr un oriau. Mae’r neges awtomatig yn ddwyieithog. Byddwn yn hyfforddi swyddogion ar sut i ddarparu yn ddwyieithog. Byddwn yn marchnata’r llinell cymorth fel gwasanaeth dwyieithog.
3 Mae’n llinell gymorth ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg ar yr un rhif ffôn, yn ystod yr un oriau. Mae’r neges awtomatig yn ddwyieithog. Byddwn yn hyfforddi swyddogion ar sut i ddarparu yn ddwyieithog. Byddwn yn marchnata’r llinell cymorth fel gwasanaeth dwyieithog. Traveline Cymru Parhaol
6.5. Iaith Gwaith
Mae posteri Iaith Gwaith mewn mannau amlwg ac mae ein swyddogion sy’n siarad Cymraeg wedi derbyn bathodynnau neu gortynnau Iaith Gwaith ond does dim gorfodaeth arnynt i’w gwisgo.
1 Byddwn yn gosod posteri Iaith Gwaith mewn mannau amlwg ac yn annog staff sy’n siarad Cymraeg i wisgo bathodynnau a chortynnau gwddf. Traveline Cymru Parhaol
Byddwn yn sicrhau bod staff sy’n siarad Cymraeg yn defnyddio’r troednodyn e-bost sy’n nodi y croesewir gohebiaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg. Traveline Cymru Parhaol

7. Staff a gwirfoddolwyr

Eich darpariaeth ar hyn o bryd Lefel y darpariaeth hon Amcanion er mwyn bwrw ymlaen i’r lefel nesaf neu er mwyn cynnal eich darpariaeth Pwy fydd yn gyfrifol? Erbyn pryd?
7.1. Recriwtio staff
Rydym yn asesu os yw’r Gymraeg yn sgil sydd ei angen ar gyfer bob swydd newydd.
1 Byddwn yn gofyn am y Gymraeg fel sgil ‘hanfodol’ wrth recriwtio staff newydd fydd yn delio gyda’r cyhoedd. Traveline Cymru Parhaol
7.2. Hysbysebu swyddi gwag
Rydym yn paratoi hysbysebion yn ddwyieithog os yw’r Gymraeg yn sgil dymunol neu hanfodol.
1 Byddwn yn hysbysebu swyddi ble nodir bod y Gymraeg yn sgil dymunol neu hanfodol yn ddwyieithog. Traveline Cymru Parhaol
Mae pob hysbyseb swydd yn y Ganolfan Alwadau, lle bo’r angen i’r ymgeisydd fod yn gwbl ddwyieithog, yn cael eu hysbysebu’n Gymraeg. Traveline Cymru Parhaol
7.3. Ymwybyddiaeth iaith
Nid oes unrhyw broses ffurfiol ond mae dogfennaeth ar gael os yw swyddogion yn dymuno ei ddarllen.
1 Byddwn yn cyfeirio at wasanaethau Cymraeg yn y pecyn gwybodaeth y mae staff yn eu derbyn ar ddechrau eu cyflogaeth. Traveline Cymru Parhaol
7.4. Sgiliau iaith
Nid ydym yn cofnodi sgiliau iaith ein swyddogion.
1 Byddwn yn holi staff am eu sgiliau iaith. Traveline Cymru Parhaol
7.5. Dysgu a defnyddio’r Gymraeg
Nid ydym yn cadw cofnod o hyfforddiant Cymraeg ein swyddogion.
2 Byddwn yn ymdrechu i greu awyrgylch sydd yn annog swyddogion i ddefnyddio’r Iaith Gymraeg. Traveline Cymru Parhaol

Fersiwn 1.2 – Mai 2021